Exodus 25

Sut i godi'r Tabernacl

(Exodus 35:4-9)

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Dywed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy'n awyddus i gyfrannu. 3Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres, 4edau las, porffor, a coch, lliain main drud, blew gafr, 5crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, 6olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus, 7onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest. 8Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw. 9Dw i eisiau i'r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i'n dangos i ti.

Yr Arch

(Exodus 37:1-9)

10“Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia – 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. 11Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. 12Yna gwneud pedair cylch aur, a'i gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr. 13A dau bolyn o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur. 14Mae'r polion i ffitio drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, ac i'w defnyddio i'w chario hi. 15Mae'r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser – rhaid peidio eu tynnu nhw allan. 16Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch.

17“Yna gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. 18Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun. 20Mae'r ceriwbiaid i fod yn wynebu ei gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch. 21Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi. 22Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau geriwb sydd uwch ben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.

Bwrdd y bara i'w gyflwyno i Dduw

(Exodus 37:10-16)

23“Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. 24Mae'r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i'w osod o'i gwmpas i'w addurno. 25Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border. 26Yna gwneud pedair cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau 27wrth ymyl y croeslath. Mae'r cylchoedd i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd. 28Mae'r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur. 29Hefyd platiau, pedyll, jygiau a powlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod. 30Mae'r bara cysegredig i gael ei osod o'm blaen i ar y bwrdd yma bob amser.

Stand i ddal y lampau – y Menora

(Exodus 37:17-24)

31“Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. 32Mae chwe cangen i ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr. 33Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau. 34Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau. 35Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. 36Mae'r cwbl i'w wneud o un darn o aur pur wedi ei guro – gwaith morthwyl. 37Yna rhaid gwneud saith lamp, a'i gosod nhw arni fel eu bod yn goleuo o'i blaen hi. 38Mae'r gefeiliau a'r padellau hefyd i'w gwneud o aur pur. 39Dylid defnyddio 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer i gyd. 40Gwna'n siŵr dy fod yn eu gwneud nhw yn union fel yn y cynllun gafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.

Copyright information for CYM